“Cyflwyno'r weledigaeth o ddyfodol iachach trwy ddeallusrwydd, gweithredu a chanlyniadau”
Gweledigaeth yr Uned Gyflawni yw sicrhau gwelliant cynaliadwy yn GIG Cymru trwy drefn system gyfan o ymdrin ag iechyd a gofal, trwy gyflawni’r weledigaeth ‘Cymru Iachach: Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol’.
Cymru Iachach: Er mwyn i bawb yng Nghymru fyw bywydau hirach, iachach a hapusach a chefnogi pobl i aros yn egnïol ac yn annibynnol.