Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

Gweledigaeth yr Uned Gyflawni yw sicrhau gwelliant cynaliadwy yn GIG Cymru trwy drefn system gyfan o ymdrin ag iechyd a gofal. Rydym yn gwneud hyn trwy gyflawni gweledigaeth ‘Cymru Iachach’. Mae Cymru Iachach yn nodi Gwerthoedd Craidd sy'n sail i’r weledigaeth. Y gwerthoedd craidd yw:

  • Rhoi ansawdd a diogelwch uwchlaw popeth – darparu gofal gwerth uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ein cleifion bob amser.
  • Integreiddio gwelliant yn ein gwaith bob dydd a dileu niwed, gwahaniaethu a gwastraff.
  • Canolbwyntio ar atal, gwella iechyd ac anghydraddoldeb er mwyn hyrwyddo datblygu cynaliadwy, iechyd a lles ymhlith pobl Cymru a phlant eu plant.
  • Gweithio mewn partneriaethau go iawn â sefydliadau eraill a’n staff.
  • Buddsoddi yn ein staff drwy eu hyfforddi a’u datblygu, gan ei gwneud yn bosibl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau a rhoi’r adnoddau, y systemau a’r amgylchedd iddynt weithio’n ddiogel ac yn effeithiol.

Mae'r gwerthoedd craidd hyn wrth wraidd ein gwaith, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni'r weledigaeth hon er budd y boblogaeth gyfan ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae Cymru Iachach yn defnyddio ‘egwyddorion cynllunio’ i helpu’r cyhoedd a’r staff i ddeall yn ymarferol sut y gall y Nod Pedwarplyg a ddisgrifir yn y cynllun ac athroniaeth ehangach y GIG o Ofal Iechyd Darbodus gael eu defnyddio i ysgogi newid. Rydym yn defnyddio'r egwyddorion cynllunio hyn i sicrhau bod ein cynnwys a'n dulliau’n addas ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn sicrhau ein bod bob amser yn ychwanegu gwerth sy'n cysylltu polisi ag arfer ac â’r gwaith o gyflawni targedau cenedlaethol nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, gan gymryd ein harweiniad o flaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol a’r modd y mae’r rhain yn rhan o gynlluniau’r sefydliad.

Cenhadaeth yr Uned Gyflawni yw gweithio gyda sefydliadau'r GIG a'u partneriaid i gyflawni'r weledigaeth o ddyfodol iachach trwy ddeallusrwydd, gweithredu a chanlyniadau.

“Cymru Iachach”: Cymru Iachach