Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen COVID-19 Nosocomial Genedlaethol

Yn Ebrill 2022, sefydlwyd y Rhaglen COVID-19 Nosocomiaidd Genedlaethol i gynorthwyo sefydliadau GIG Cymru yn eu dyletswydd i gynnal ymchwiliadau i ddigwyddiadau diogelwch cleifion o COVID-19 nosocomiaidd. Weithiau mae heintiau a geir mewn gofal iechyd yn cael eu hystyried yn ddigwyddiad diogelwch cleifion, yn dibynnu ar sut a phryd y cafwyd yr haint ei ddal.

Mae’r Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd wedi creu fframwaith i sicrhau bod sefydliadau GIG Cymru yn mabwysiadu ymagwedd mor gyson â phosibl at y broses ymchwilio, gan sicrhau bod ymchwiliadau’n cael eu cynnal unwaith ac yn cael eu gwneud yn dda. Hyd yn hyn, mae’r rhaglen wedi cefnogi sefydliadau GIG Cymru i ymchwilio i dros 5,000 o achosion, gan ddarparu rhai atebion i anwyliaid, yn ogystal â dal dysgu a phrofiad.

Gan gydnabod effaith COVID-19 ar ddefnyddwyr gwasanaethau, teuluoedd, gofalwyr a staff GIG Cymru, mae’r rhaglen wedi mabwysiadu dull dysgu sy’n ceisio peidio â rhoi’r bai, ond sy’n gwneud y mwyaf o’r cyfle i ddysgu a gwella.

Mae GIG Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Dysgu Interim ar y Rhaglen COVID-19 Nosocomiaidd Genedlaethol, sy’n rhoi trosolwg o’r rhaglen ac yn nodi rhai o’r themâu dysgu cynnar sy’n dod i’r amlwg drwy’r rhaglen.