Neidio i'r prif gynnwy

Atebion Diogelwch Cleifion: Rhybuddion a Hysbysiadau

Yn dilyn diddymiad yr Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion (NPSA), mae Llywodraeth Cymru (LlC) yn arwain y rôl hanfodol hon wrth nodi unrhyw risgiau a phryderon diogelwch sylweddol ac ers mis Ebrill 2014 mae wedi bod yn datblygu Datrysiadau Diogelwch Cleifion ar lefel genedlaethol i'w rhoi i'r GIG. yng Nghymru. Mae canllawiau ar Atebion Diogelwch Cleifion GIG Cymru ar gael isod:

Canllawiau ar GIG yng Nghymru Atebion Diogelwch Cleifion - Ragfyr 2014

Mae'n ofynnol fod sefydliadau'r GIG yng Nghymru yn cyflwyno adroddiadau ar gydymffurfiaeth â phob un o'r atebion diogelwch cleifion a gyhoeddwyd cyn yr NPSA yn flaenorol ac a gyhoeddir gan Llywodraeth Cymru bellach.  Cliciwch ar y pennawd yn y tabl cryno isod i weld y rhybuddion a'r hysbysiadau mewn trefn rifiadol.

Gellir cael mynediad at ddogfennau a gynhyrchwyd yn flaenorol gan yr NPSA drwy ddilyn y ddolen allanol hon: NHS England Patient Safety Alerts

Cyhoeddwyd Rhybudd Diogelwch Cleifion Cenedlaethol (PSA13 Mehefin 2021) i GIG Cymru ynghylch offer a pholisïau asesu risg ar gyfer rhwymynnau a phwyntiau rhwymo.

Yn unol â chanllawiau ar gyhoeddi gwybodaeth o'r natur hon, nid yw'r rhybudd hwn ar gael yn gyhoeddus.

 

Mae'r mathau o rybuddion yn cynnwys Adroddiadau Ymateb Cyflym, Rhybuddion am Ddiogelwch Cleifion, a Hysbysiadau am Ymarfer Mwy Diogel.