Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiadau sy'n Ymwneud â Diogelwch Cleifion

Digwyddiadau sy'n Ymwneud â Diogelwch Cleifion yw unrhyw ddigwyddiad anfwriadol neu annisgwyl a allai fod neu sydd wedi arwain at niwed i un neu fwy o gleifion sy'n cael gofal a ariennir gan y GIG. Caiff digwyddiadau sy'n ymwneud â diogelwch cleifion eu rheoli'n lleol dan Weithio i Wella.

Sefydlwyd Gweithio i Wella i adolygu'r broses bresennol o godi pryderon, ymchwilio iddynt a dysgu ohonynt. Pryderon yw materion sy'n deillio o ddigwyddiadau sy'n ymwneud â diogelwch cleifion, cwynion ac, mewn perthynas â chyrff y GIG, honiadau am wasanaethau a ddarperir gan Gorff Cyfrifol yng Nghymru. Y nod yw darparu un broses fwy integredig a chefnogol er mwyn i bobl allu codi pryderon.

Gwelir y Polisi Cenedlaethol ar Adrodd am Ddigwyddiadau yn ymwneud â Diogelwch Cleifion (Mai 2023) ar gael drwy’r dolenni isod.

Polisi Cenedlaethol ar Adrodd am Ddigwyddiadau Diogelwch Cleifion a rheolaeth