Mae Digwyddiadau Byth yn ddigwyddiadau diogelwch cleifion difrifol y gellir eu hatal i raddau helaeth na ddylent ddigwydd os gweithredwyd y mesurau ataliol sydd ar gael.
Cyflwynwyd rhestr graidd o Ddigwyddiadau Byth gan yr Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion ar gyfer y GIG ym mis Ebrill 2009. Cyhoeddwyd Llywodraeth Cymru Cylchlythyr Iechyd Cymru CIC 2022(020) Gorffennaf 2022 gyda Datganiad Polisi. Ac mae rhestr Digwyddiadau Byth wedi’i hadolygu a’i diweddaru.
Nodwch y newidiadau canlynol i'r Rhestr Digwyddiadau Byth Gorffennaf 2022:
Rhoi meddyginiaeth trwy'r llwybr anghywir - ni ellir ystyried 'rhoi meddyginiaeth mewnwythiennol y bwriedir ei rhoi trwy'r llwybr epidwral' yn Ddigwyddiad Byth yn ystod y cyfnod pontio ar gyfer dyfeisiau NRFit™.
Bydd adolygiadau pellach yn cael eu cwblhau gan weithio gyda GIG Lloegr.